Niet blij met je aankoop? Geeft niet! Je kunt artikelen tot 30 dagen retourneren
Met een cadeaubon zit je altijd goed. De ontvanger kan de cadeaubon voor alles uit ons assortiment inwisselen.
Tot 30 dagen retourrecht
Mae'r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Gan ddwyn y teitl Llunio Hanes, mae'r gyfrol yn archwilio a chrynhoi'r gwahanol ffyrdd y mae haneswyr wedi ysgrifennu, ac yn parhau i ysgrifennu, hanes. Yn ei hanfod, dyma gyflwyniad i hanesyddiaeth - yr astudiaeth o ysgrifennu hanes - gyda'r nod o ymgynefino'r darllenydd ag 'offer' yr hanesydd, ac i esbonio'r fethodoleg y tu ôl i ddeongliadau hanesyddol. Mae'r awduron yn ein tywys ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Wrth archwilio hanes cenedlaethol, hanes Marcsaidd, hanes o'r gwaelod, hanes llafar, hanes menywod, hanes diwylliannol, ôl-strwythurol, y darostyngol a'r hollfydol, mae'r gyfrol yn ystyried sut y mae meysydd a disgyblaethau eraill yn dylanwadu ar grefft yr hanesydd.
Hoi! Ik ben Libroamiko, je boekadviseur.
Hoe kan ik je helpen?