Niet blij met je aankoop? Geeft niet! Je kunt artikelen tot 30 dagen retourneren
Met een cadeaubon zit je altijd goed. De ontvanger kan de cadeaubon voor alles uit ons assortiment inwisselen.
Cyflwynir yma holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a'i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd a swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol a Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei droedigaeth a'I alwad apostolaidd, a'i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a'r 'Pethau Diwethaf'; a chyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae'r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae'n amlygu ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad i astudiaethau Paulaidd.
Hoi! Ik ben Libroamiko, je boekadviseur.
Hoe kan ik je helpen?