Niet blij met je aankoop? Geeft niet! Je kunt artikelen tot 30 dagen retourneren
Met een cadeaubon zit je altijd goed. De ontvanger kan de cadeaubon voor alles uit ons assortiment inwisselen.
Ar hyd y canrifoedd, bu'r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau'r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llen fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le'r gyfraith i'n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma'r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o'r maes ymddangos, ac y mae'n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal a chyfrannu'n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Hoi! Ik ben Libroamiko, je boekadviseur.
Hoe kan ik je helpen?